Warning.
You are viewing this site in a reduced format. There are many reasons for this including: Using an older browser, browsing from a device such as a mobile phone, pda, browsing with styles disabled. Please note that the site is still functional although most visual enhancements are disabled.

Business Services Web Site

Business Service Team Training Application


Training Rooms Equalops Induction Loop

Cyfleoedd Cyfartal

Rydym yn derbyn ac yn gwerthfawrogi’n cyfrifoldeb i ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad personal a phroffesiynol ein holl aelodau tîm a’n dysgwyr. Nid ydym yn gwahaniaethu naill ai’n uniongyrchol neu anuniongyrchol yn erbyn dysgwyr neu ddarpar ddysgwyr oherwydd rydym yn gwerthfawrogi cyfleoedd cyfartal i bawb a dysgu heb ragfarn.

O ran cymwysterau –

Mynediad i Ddysgu ac Asesiad

Bydd pob dysgwr yn gallu hygyrchu dysgu ac asesiad beth bynnag fo’u tarddiad hiliol neu ethnig, eu cefndir diwylliannol neu grefyddol, eu hanableddau, eu cenedl, eu tueddfryd rhywiol, eu hoedran, eu dibynyddion, eu statws priodasol, unrhyw gysylltiadau wleidyddol canfyddedig neu wirioneddol, yn gweithio’n llawn neu’n rhan-amser neu fod yn hunangyflogedig neu’n wirfoddolwr.

Gwahaniaethu yn erbyn Dysgwyr

Oherwydd bod aelodau’r tîm wedi’u hyfforddi yn unol â’r safonau cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant a Datblygiad, bydd y Ganolfan yn cymryd y cyfrifoldeb o sicrhau bod gwahaniaethu yn erbyn dysgwyr yn cael ei osgoi. Bydd hyn yn cael ei fonitro gan Arweinydd y Rhaglen yn ystod ymweliadau achlysurol, drwy drafod â Dysgwyr ac aelodau’r tîm.

Penodi Staff y Ganolfan

Bydd pob aelod o’r tîm sy’n cael eu penodi i weithio ar raglenni yn cael eu recriwtio, yn derbyn cynigion am gyfleoedd hyfforddi ac yn cael eu dyrchafu ar sail meini prawf gwrthrychol neu allu a’u haddasrwydd ar gyfer y swydd.

Mae polisïau Cyfleoedd Cyfartal Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gael ar gais

System Dolen Glyw

Mae system dolen glyw yn Ystafell Hyfforddi Heol Theodore i gynorthwyo pobl sydd â nam ar y clyw.

Hygyrchedd

Gellir hygyrchu Canolfan Heol Theodore mewn cadair olwyn.