Warning.
You are viewing this site in a reduced format.
There are many reasons for this including: Using an older browser, browsing from a device such as a mobile phone, pda, browsing with styles disabled.
Please note that the site is still functional although most visual enhancements are disabled.
Business Services Web Site
Business Service Team Training Application
Iechyd a Diogelwch
Rydym yn bwriadu eich diogelu pan fyddwch yn mynychu cyrsiau yn Adeiladau’r Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes felly rydym wedi llunio nifer o reolau yr hoffem i chi eu dilyn yn ystod eich cwrs hyfforddi.
- Rhoddwyd larymau brys yn adeiladau’r Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes ac arddangosir llwybrau dianc. Yn ogystal â’r larymau, ceir golau strôb yn yr ystafell hyfforddi a’r toiledau i rybuddio dysgwyr sydd â nam ar y clyw. Mae cyfrifoldeb ar ddysgwyr a staff eu hunan i ymgyfarwyddo â’r llwybrau dianc. Darperir cymorth o dan amgylchiadau arbennig.
- Mae’n rhaid cadw coridorau sydd yn rhan o’r llwybr dianc yn glir ac ni ddylid cadw unrhyw ddeunyddiau etc. yn ymyl yr allanfa dân.
- Wrth glywed y larwm tân, dylai staff a dysgwyr adael yr adeilad ar hyd y llwybrau dianc dynodedig yn unig.
- Sylwer: Cynhelir profion o’r system larwm bob bore dydd Llun am 10.30
- Pe bai damwain yn digwydd, rhowch wybod i’r tiwtor a fydd yn trefnu i chi dderbyn cymorth cyntaf gan berson cymwysedig.
- Bydd yn rhaid hysbysu’r tiwtor neu’r swyddog diogelwch am bob damwain sy’n achosi anaf, ni waeth pa mor ddibwys ydynt.
- Mae gan y Gwasanaethau Dysgu Gydol Oes bolisi dim ysmygu trwy’r adeilad.
- I sicrhau cyfathrebu effeithiol yn ystod y sesiynau hyfforddi, mae’n rhaid troi pob ffôn symudol bant ar ddechrau’r sesiwn.
- Os oes unrhyw ofynion iechyd arbennig gennych, rhowch wybod i’r tiwtor mor gynnar ag y gallwch.
© 2004 Canolfan Technoleg Gwybodaeth