Warning.
You are viewing this site in a reduced format.
There are many reasons for this including: Using an older browser, browsing from a device such as a mobile phone, pda, browsing with styles disabled.
Please note that the site is still functional although most visual enhancements are disabled.
Dysgu gyda’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes
Oherwydd y profiad helaeth sydd gan oedolion ym mhob agwedd ar eu bywyd, rydym wedi datblygu diwylliant sy’n cefnogi ymagwedd hyrwyddol i ddysgu.
Bydd pob aelod o’r staff tiwtorial yn gyfrifol am ddewis y strategaethau addysgu perthnasol. Sut bynnag, bydd pob dull addysgu a hyfforddi a ddefnyddir yn anelu at ddefnyddio profiad a barn yr oedolion sy’n dysgu. Mae’r tiwtoriaid yn darparu cyfleoedd i gydweithio mewn parau neu grwpiau bach lle mae dysgwyr yn gallu archwilio a datblygu syniadau.
Prif nod y Tîm Gwasanaethau Busnes yw creu cyd-destun i ddysgu sy’n diwallu anghenion penodol yr oedolion sy’n dysgu. Er mwyn cyflawni’n nodau, anogir dysgwyr i:
- Ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu drwy ymateb i bwyntiau neu faterion yn uniongyrchol neu drwy weithio mewn grwpiau.
- Datblygu eu sgiliau datrys problemau drwy weithgareddau grwp, chwarae rôl ac astudiaethau achos.
- Nodi cyfleoedd i roi dysgu ar waith. Myfyrio ar yr addysgu a sut mae’n cael ei gymhwyso.
Bydd rhai rhaglenni’n cynnwys y dysgwr mewn dysgu agored. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu agored lleol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu fel y ffôn a’r e-bost.
Anogir grwpiau o ddysgwyr sy’n dilyn y modd hwn o astudio i gwrdd o dro i dro. Bydd hyn yn hybu ysgogiad unigol ac yn gwella athroniaeth yr oedolyn a’r grŵp a hyrwyddir gennym yn y Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes. Hefyd, rydym yn gobeithio y bydd dysgwyr yn mwynhau eu profiad dysgu gyda’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes ac yn gorffen eu hastudiaethau gyda mwy o wybodaeth am eu testun a’r broses ddysgu ei hunan.
Er mwyn hyrwyddo a datblygu’r athroniaeth hon sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, rydym yn disgwyl i chi:
- Fynychu’r sesiynau hyfforddi a chefnogi sydd wedi’u trefnu
- Bod yn brydlon ar gyfer apwyntiadau a sesiynau hyfforddi
- Cwrdd â’r terfynau amser y cytunwyd arnynt neu roi gwybod i Dîm y Rhaglen ar unwaith os na fydd hyn yn bosibl
- Bod yn gyfrifol am eich dysgu eich hunan
- Cwblhau’r rhaglen ddysgu/asesu
- Cwblhau dogfennau priodol y Corff Dyfarnu a’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes
- Cymryd cyfrifoldeb am ariannu’r rhaglen ddysgu/asesu
- Cwblhau unrhyw aseiniadau, prosiectau neu dystiolaeth bortffolio erbyn y targedau y cytunwyd arnynt
- Rhoi rhagor o ymdrech i mewn i hunanddatblygiad
- Hysbysu’r Tîm Rhaglenni am unrhyw broblemau neu anawsterau cyn gynted ag y maent yn codi
- Darparu deunydd ysgrifennu/adnoddau priodol i gwblhau rhaglen ddysgu ac asesu
- Cyflwyno gwaith sy’n glir, yn benodol, yn ddarllenadwy ac yn briodol ar gyfer lefel y dyfarniad
- Cadw portffolios/prosiectau/aseiniadau am leiafswm o dair blynedd ar ôl gorffen y rhaglen er mwyn i ni eu hail-archwilio
A byddwn yn sicrhau ein bod yn:
- Eich annog a rhoi cyngor i chi
- Eich hysbysu a’ch helpu i ganolbwyntio ar wneud cynnydd. Rhoi adborth adeiladol ar bob cyfle.
- Bod mor hyblyg ag y mae adnoddau yn caniatáu, wrth weinyddu’r rhaglen
- Trefnu sesiynau hyfforddi i fod mor gyfleus â phosibl
- Trefnu sesiynau hyfforddi’n unol â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a amlinellir ym maes llafur y cwrs neu safonau cenedlaethol
- Trefnu staff priodol i ddarparu’r rhaglenni
- Cynhyrchu rhaglenni hyfforddi o ansawdd da
- Datblygu perthnasau gwaith cadarnhaol gydag eraill y gellir effeithio arnynt gan gwblhau’r rhaglen ddysgu/asesu
- Protect and secure all confidential information from unauthorised access
- Diogelu’r holl wybodaeth gyfrinachol rhag cael ei hygyrchu heb awdurdod
- Sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn ddiweddar
- Cwblhau holl ddogfennau priodol y Corff Dyfarnu a’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes
- Cwrdd â’r terfynau amser y cytunwyd arnynt neu’ch hysbysu’n brydlon os na fydd hyn yn bosibl
- Bod yn brydlon ar gyfer Sesiynau Hyfforddi ac apwyntiadau